Prosiectau

Yn ystod 2024, rydym wedi amlinellu isod y pecynnau gwaith o fewn y gyllideb wedi ariannu gan UKSPF. Rydym yn agored i syniadau eraill petai gyfleoedd ariannu bellach ar gael.

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Rheoli’r Prosiect a Staffio

Sicrhau llwyddiant swyddfa gefn – canolbwynt llwyddiant – Sicrhau gweithrediadau llyfn

Gwraidd llwyddiant Prosiect Aber yw rheolaeth swyddfa gefn effeithiol ac effeithlon. Mae Pecyn Gwaith 0 yn canolbwyntio ar agweddau sylfaenol rheolaeth y prosiect a staffio, er mwyn sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn ddidrafferth.

Rheoli’r Prosiect a Staffio (WP-0.1)

Rydym wedi cyflogi 3 aelod o staff sydd wedi ymrwymo i adfywio Aberystwyth. Mae’r swyddi yma yn hanfodol wrth wthio’r prosiect ymlaen, gweinyddu a datblygu’r cynlluniau.

Rheoli’r Prosiect a Gweinyddu (WP-0.2)

Mae’r uned yma yn delio gyda gweinyddu’r prosiect a chadw llygaid barcud ar drosolwg y gwaith er mwyn sicrhau ein bod nid yn unig yn cyrraedd pob nod, ond yn rhagori ym mhob agwedd o’r prosiect. Rydym yn sicrhau bod pob agwedd o Brosiect Aber yn cyrraedd yn nod o fewn cyllideb ac yn brydlon, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i effeithlonrwydd, tryloywder ac atebolrwydd.

Datblygu Prosiect ‘Partneriaeth Aber’

Pecyn Gwaith 1

Sefydlu strwythurau cydweithredol ar gyfer datblygu’r dre

Mae Pecyn Gwaith 1 yn canolbwyntio ar sefydlu a datblygu ‘Partneriaeth Aber’. Mae’r blaengaredd yma yn golygu uno sefydliadau, rhanddeiliaid a chynrychiolwyr y dre mewn cydymdrech i hwyluso adfywiad Aberystwyth.

Diben ‘Partneriaeth Aber’ o fewn Prosiect Aber

Mae ffurfiad ‘Partneriaeth Aber’ yn ganolog i Brosiect Aber, gan gynnig strwythur i gyd-weithio rhwng cyfranddalwyr a sicrhau cynllunio a gweithredoliant trylwyr. Mae’r prosiect yn bwriadu cyfuno arbenigedd a chipolygon amrywiol tuag at budd cyfunol datblygiad y dre.

WP1.1 – Creu a Datblygu ‘Partneriaeth Aber’

Nod y pecyn gwaith yma ydy creu Bwrdd Rheoli ‘Partneriaeth Aber’. Mae hyn yn golygu darganfod a phenodi rhan ddeiliaid a chynrychiolwyr perthnasol. Mae o leiaf dau Cyfarfod Bwrdd wedi’u cynllunio i sefydlu gwreiddiau cadarn ar gyfer cydweithio llwyddiannus yn y dyfodol. Mae’r cynllun yma yn hanfodol ar gyfer alinio’r prosiect gydag anghenion a nodau ehangach Aberystwyth er mwyn hwyluso dull cydlynol o gynllunio tref. Adfywio Canol Y Dre

Adfywio Canol Y Dref

Pecyn Gwaith 2

Gwella Canol Tref Aberystwyth

Mae Pecyn Gwaith 2 yn canolbwyntio ar wella canol y dref trwy ddeall trafferthion a gwella adeiladau gwag, glanhau’r dref ac adfywio siopai gwag. Mae’r pecyn yma yn bwriadu sicrhau bod canol y dref yn ddeniadol a chroesawgar.

Pam bod hyn yn bwysig?

Mae’r pecyn gwaith yma yn bwysig er mwyn gwneud canol y dre yn lle atyniadol a bywiog. Wrth ganolbwyntio ar yr agweddau yma rydym yn helpu creu tref mae pawb yn gallu ymfalchïo ynddi.

WP 2.1 – Bas Data Eiddo

Y dasg gyntaf yw creu rhestr o eiddo masnachol y dref a darganfod pwy sydd eu perchen a pha adeiladau sydd angen sylw gyntaf.

WP 2.2 – Glanhau’r Dref

Mae’r prosiect yma yn ymwneud a threfni sesiynau casglu sbwriel cymunedol. Byddwn yn creu calendr a chofnod o bwy sydd yn barod i helpu ac yn cydlynu’r ymdrechion. Nod y prosiect yma yw cyd-weithio fel cymuned i gadw Aberystwyth yn lan a thaclus.

WP 2.3 – Gwella Golwg Adeiladau Gwag

Y nod yma yw targedu’r 5 adeilad mwyaf anghenus yn y dref a’u gwella – bydd hyn yn gwella’r argraff o’r dref.

Ail-ddychmygu Canol Tref Aberystwyth

Pecyn Gwaith 3

Ail-ddychmygu Canol Tref Aberystwyth

Mae Pecyn Gwaith 3 yn ystyried ailfeddwl ffyrdd gall canol y dref cael ei ddefnyddio, gan gynnwys ystyried sut fyddai ardaloedd di-draffig yn gallu gweithio o amgylch y dref.

Pwysigrwydd Pecyn Gwaith 3

Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn ystyried cynllunio tuag at ddyfodol y dref, wrth feddwl am y pethau yma nawr, gallwn anelu at sicrhau dyfodol hir a disglair i Aberystwyth.

WP 3.1 – Astudiaeth Cwmpasu a Dichonoldeb i Gerddwyr

Mae’r prosiect yma yn edrych i weld a fyddai ardal di draffig yn gallu gweithio yn Aberystwyth, ac os felly, sut fyddai hyn yn gallu digwydd. Rydym yn comisiynu adroddiad er mwyn darganfod os ydy hyn yn syniad da, ac os yw, sut fyddai modd gweithredu’r cynllun.

Cefnogi ein Busnesau ac Economi Lleol

Pecyn Gwaith 4

Mabwysiadu ffyniant a chysylltiadau Busnes

Mae Pecyn Gwaith 4 yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau Aberystwyth trwy ehangu cyfleoedd rhwydweithio a hybu defnydd o dechnoleg ddigidol. Bwriad y pecyn yma yw cryfhau’r economi lleol a mabwysiadu perthnasau busnes.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae’r pecyn yma yn hanfodol gan ei fod yn cefnogi tyfiant a datblygiadau busnesau lleol. Wrth greu cyfleoedd rhwydweithio a chroesawu datblygiadau technolegol, rydym yn helpu busnesau lleol i ffynnu, sydd yn ei dro yn helpu’r gymuned i gyd.

WP 4.1 – Digwyddiadau Rhwydweithio Busnes

Mae’r prosiect yma yn golygu trefnu 5 digwyddiad rhwydweithio yn Aberystwyth yn ystod 2024. Bwriad y digwyddiadau yw creu cysylltiadau rhwng busnesau er mwyn rhannu syniadau a chreu cyfleoedd cyd-weithio.

WP 4.2 – Cynyddu defnydd o Dechnoleg Ddigidol

Mae’r prosiect yma yn canolbwyntio ar hyfforddi unigolion ar ddefnydd wi-fi y Dref, data ymwelwyr a thechnoleg Trefi Smart Towns Cymru yn effeithiol. Y nod yw codi hyder busnesau lleol trwy ddefnydd o dechnoleg ddigidol i wneud penderfyniadau hyderus ynghylch datblygiadau busnes.

Digwyddiadau a Marchnad Yr Hen Dref

Pecyn Gwaith 5

Datblygu a Chyfoethogi Ymgysylltiadau Cymunedol trwy Farchnadoedd a Digwyddiadau

Mae Pecyn Gwaith 5 yn canolbwyntio adfywiodod Aberystwyth trwy farchnadoedd a digwyddiadau cymunedol. Bwriad y pecyn yma ydy hybu ymglymiad lleol, gwella’r argraff leol o ddigwyddiadau a chynyddu’r nifer o ymwelwyr i’r dre.

Pwysigrwydd Pecyn Gwaith 5

Mae’r pecyn yma yn hanfodol gan ei fod yn canolbwyntio ar adfywio ardal yr hen dref, gan greu hwb i ddigwyddiadau cymunedol. Wrth gefnogi marchnadoedd a digwyddiadau rydym yn creu awyrgylch bywiog i drigolion lleol ac ymwelwyr.

WP 5.1 – Marchnad yr Hen Dref

Mae’r prosiect yma yn cefnogi Marchnad yr Hen Dref gyda’r bwriad o greu marchnad fywiog a llewyrchus sy’n denu pobol leol ac ymwelwyr ynghyd ag arddangos cynnyrch a chrefftau lleol.

WP 5.2 – Pecyn Digwyddiadau Cymunedol

Nod y prosiect yma yw gwella safon a nifer y digwyddiadau lleol. Wrth drefni ddigwyddiadau proffesiynol a diddorol rydym yn gobeithio cynyddu cefnogaeth i’r digwyddiadau.

WP 5.3 – Rhaglen Digwyddiadau Uchelgeisiol

Y nod gyda’r prosiect yma yw datblygu ystod eang o ddigwyddiadau diddorol ac addysgiadol sydd yn dyfnhau dealltwriaeth o’n ‘cynefin’. Y gobaith yw cynyddu’r nifer yr ymwelwyr i’r dref yn ystod cyfnodau brig, cefnogi ymrwymiad dros ugain o wirfoddolwyr a chynorthwyo gyda o leiaf 5 digwyddiad lleol.

Cyrchfan Aberystwyth

Prosiect Gwaith 6

Hybu Aberystwyth fel Cyrchfan Twristiaeth

Mae Pecyn Gwaith 6 yn canolbwyntio ar arddangos Aberystwyth fel cyrchfan ddeniadol i dwristiaid a thrigolion lleol. Mae hyn yn cynnwys gwefan ac ap newydd i’r dref, cefnogi staff lletygarwch, creu teithiau cerdded & beic, a mwy- gyda phob elfen yn hybu twristiaeth a chydweithrediad y gymuned leol.

Pwysigrwydd Pecyn Gwaith 6

Mae’r pecyn yma yn ganolog i’r prosiect a’r ymgais i godi proffil Aberystwyth fel cyrchfan diddorol a deniadol. Wrth wella argaeledd technolegau digidol byddwn yn gwella’r profiad i ymwelwyr, gyda’r bwriad o gynyddu niferoedd y twristiaid a thrwy hynnyu bydd yr economi lleol yn tyfu ac ehangu.

WP 6.1 – Gwefan ac Ap Dref

Mae’r prosiect yma yn ymrwymo i greu gwefan cynhwysfawr, dwyieithog i Aberystwyth. Bydd y llwyfannau digidol yma yn cynnwys pob math o wybodaeth am y dref, atyniadau a digwyddiadau.

WP 6.2 – Porth Croeso Aber

Bydd yr elfen yma yn canolbwyntio ar gefnogi’r diwydiant lletygarwch yn y dref, gan gynnig hyfforddiant i 30 o staff ar draws 15 busnes lleol- gan fwriadu gwella eu gwybodaeth leol a thrwy hynny, codi proffil Aberystwyth ymysg ein hymwelwyr.

WP 6.3 – Llwybrau Aber

Bydd y prosiect yma yn creu nifer o lwybrau sydd yn tywys ymwelwyr trwy’r dref gan arddangos nifer o’r atyniadau, hanes y dref a’r golygfeydd anhygoel. Bydd adnabod llwybrau beicio diogel a rhai mwy anturus yn ychwanegu at wneud Aber yn atyniad deiniadol sydd hefyd yn hybu iechyd meddwl. Y bwriad yma yw cynyddu’r nifer o bobol yn y dref yn ystod y prif gyfnodau i ymwelwyr.

WP 6.4 – Pasbort Aberystwyth

Yma, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ennyn diddordeb ymwelwyr yn y dref a’r ardaloedd cyfagos, trwy weithgareddau a phrofiadau diddorol.

Tref Smart

Pecyn Gwaith 7

Cyflwyno Mentrau Smart i hybu Tref Smart

Mae’r pecyn gwaith yma yn canolbwyntio ar greu Aberystwyth ‘Smart’ gan gyflwyno technoleg IoT a byrddau gwybodaeth ddeallus. Thrwy hyn y gobaith yw gwella mynediad i wybodaeth am y dref, hyrwyddo llefydd gwyrdd a chreu cysylltiadau cymunedol gwell.

Pwysigrwydd y Pecyn

Mae’r pecyn yma yn arwyddocaol gan ei fod yn dod a thechnoleg newydd cyffroes i Aberystwyth. Bydd hyn yn medru gwella cysylltiadau o fewn y dref a chyflymu mynediad i wybodaeth ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr.

WP 7.1 – Peilot IoT Gymunedol

Mae’r prosiect peilot cymunedol datrysiadau IoT sydd yn gobeithio gwella cysylltiadau digidol o fewn y dref a thrwy hynny cyflwyno gwybodaeth yn well i’r cyhoedd- boed yn lleol neu yn ymwelwyr. .

WP 7.2 – Byrddau Gwybodaeth Smart/Digidol

Ffocws y prosiect yma yw gosod byrddau gwybodaeth digidol ar hyd Aberystwyth. Bydd y byrddau yma yn cyflwyno gwybodaeth amserol, gwella ardaloedd gwyrdd a chreu cymuned fwy rhwydweithiol.