Ein Gweledigaeth
Mae ein gweledigaeth yn syml: adeiladu partneriaeth i sicrhau fod Aberystwyth yn lle anhygoel i fyw ac i weithio ynddo ac i’w archwilio.
Pwy Ydym ni?
Prosiect adfywio sy’n cael ei yrru gan y gymuned yw Prosiect Aber, ac sy’n cael ei arwain gan unigolion brwd gyda chefnogaeth nifer o sefydliadau allweddol. Mae Clwb Busnes Aberystwyth, Cyngor Tref Aberystwyth a Menter Aberystwyth, wedi ymrwymo i fabwysiadau cysylltiadau dyfeisgar a chynhwysol ar draws y gymuned i sicrhau fod Aberystwyth ar ei orau.
Mae ein gwaith wedi ei drefni i becynnau gwaith, pob un â ffocws a diben penodol. Mae’r pecynnau yn ymateb i wahanol agweddau o adfywio’r dref- ac adnewyddu’r dref i groesawu technolegau newydd. Credwn mai trwy ymdrin â’r ystod eang o brosiectau, mae modd creu Aberystwyth blaengar a chroesawgar.
Beth ydy’n ni’n gwneud?
Mae ein gwaith wedi ei drefni i Becynnau Gwaith, pob un â ffocws a diben penodol. Mae’r pecynnau yn ymateb i wahanol agweddau o adfywio’r dref- ac adnewyddu’r dref i groesawu technolegau newydd. Credwn mai trwy ymdrin â’r ystod eang o brosiectau, mae modd creu Aberystwyth blaengar a chroesawgar.
Pam bod hyn yn bwysig?
Mae Aberystwyth yn llawer mwy na ‘lle’ – mae’n gymuned. Mae ein hawch i helpu wedi ei gyrru gan ddymuniad i gynnal, cadw a chyfoethogi cymeriad unigryw Aberystwyth. Wrth ddarparu prosiectau penodol, meithrin busnesau lleol, annibynnol a chroesawu technoleg newydd, rydym yn gobeithio adeiladu sylfaen llewyrchus fydd yn fuddiol i’r holl gymuned.
Ymunwch a Ni
Rydym yn croesawi ac yn gwerthfawrogi mewnbwn y gymuned gyfan. Os ydych yn breswyliwr, yn fusnes neu sefydliad lleol neu yn unrhyw un â diddordeb yn nyfodol llewyrchus i Aberystwyth, mae sawl ffordd o gyd-weithio â Phrosiect Aber. Mae eich syniadau, adborth a chefnogaeth yn hanfodol i lwyddiant y prosiect.
Cadwch mewn Cysylltiad
Cadwch lan gyda newyddion diweddaraf Prosiect Aber, digwyddiadau a llwyddiannau trwy ymweld â’r wefan yn aml. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw wrth gadw’r gymuned mewn cysylltiad â’r prosiect.
Cysylltwch:
Mae eich barn yn bwysig- ac rydym ni yma i wrando. Oes oes gennych gwestiwn, argymhelliad neu os hoffech ymuno âa’r prosiect cymunedol yma plîs cysylltwch. Rydym yma i gyd-weithio at ddyfodol llewyrchus a llwyddiannus i Aberystwyth.