Prosiect Aber

Prosiect Aber yn cael ei arwain gan Glwb Busnes Aberystwyth, Cyngor Tref Aberystwyth a Menter Aberystwyth. Rydym ni’n cyd-weithio i adeiladu partneriaethau a chreu Aberystwyth brafiach i fyw, i weithio ac i anturiaethu ynddi.

Beth yw ein bwriad?

Yn 2023 cydweithiodd Clwb Busnes Aberystwyth, Cyngor Tref Aberystwyth a Menter Aberystwyth i greu cais ar y cyd am arian gan gronfa UKSPF. Y bwriad yw greu partneriaeth newydd mewn ymateb i nifer o faterion ar draws y dref. Bu’r cais yn llwyddiannus a dechreuwyd y prosiect ar frys yn 2024.

Ein Prosiectau

Mae gennym nifer o brosiectau i gwblhau yn ystod 2024- darllenwch mwy yma.

Am Brosiect Aber

Ein gweledigaeth, pwy ydym ni, beth ydym yn gwneud a pham bod hyn oll o bwys.

Cymerwch Ran

Os hoffech chi gyd-weithio â Phrosiect Aber mewn unrhyw ffordd – cysylltwch

Cwestiynau Cyson

Darllenwch ein cwestiynau cyson i ddarganfod mwy am Brosiect Aber a’r gwaith rydym yn cyflawni.

Allwch chi hefyd ddarllen mwy trwy glicio ar y botwm isod.

Beth yw Prosiect Aber?

Bwriad Prosiect Aber yw cynnal, hyrwyddo a gwella Aberystwyth ar gyfer y preswylwyr, y gymuned ehangach ac ymwelwyr.

Pwy sydd tu ôl i Brosiect Aber?

Dyma’r prosiect cyntaf o dan ‘Partneriaeth Aberystwyth’. Yr aelodau gwreiddiol yw Clwb Busnes Aberystwyth, Cyngor Tref Aberystwyth a Menter Aberystwyth. Ariannir y prosiect gan y Llywodraeth Genedlaethol, trwy gynllun Ffyniant Bro a chaiff ei weinyddu gan ‘Cynnal Y Cardi’ (Cyngor Sir Ceredigion).

Pa brosiectau sydd wedi cynnwys?

Mae Prosiect Aber yn gyfrifol am sawl prosiect, gan gynnwys adnewyddu’r byrddau gwybodaeth o amgylch y dre, ymchwiliad i isadeiledd y dre, gwefan ac ap newydd a mwy. Darllenwch y rhestr lawn ar ein tudalen Prosiectau.

Ydych chi’n darparu grantiau?

Er bod Prosiect Aber wedi ei ariannu gan grant, nid ydym yn ffynhonnell grantiau. Gewch chi’r wybodaeth ddiweddaraf am grantiau ar wefan Cynnal Y Cardi yn ogystal â thudalen grantiau Cyngor Sir Ceredigion.

Ariannir Prosiect Aber gan: