Cwestiynau Cyson

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Beth yw Prosiect Aber?

Bwriad Prosiect Aber yw cynnal, hyrwyddo a gwella Aberystwyth i breswylwyr, y gymuned ehangach ac ymwelwyr.

Pwy sydd tu ôl i Brosiect Aber?

Mae Prosiect Aber yn cael ei arwain gan Glwb Busnes Aberystwyth, Cyngor Tref Aberystwyth a Menter Aberystwyth. Mae’r sefydliadau allweddol hyn yn cydweithio i ysgogi newid cadarnhaol yn Aberystwyth.

Sut mae Prosiect Aber wedi ariannu?
Ariannir Prosiect Aber gan gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig a gweinyddir y gronfa gan Gynnal Y Cardi (Cyngor Sir Ceredigion). Mae’r gronfa yma yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau wedi anelu at adfywio trefi.
Pa brosiectau sydd wedi cynnwys?

Mae Prosiect Aber yn gyfrifol am sawl prosiect, gan gynnwys adfywio ardal yr hen farchnad trwy ail gychwyn marchnadoedd cyson, hybu Aber fel cyrchfan twristiaid, adfywio canol y dref trwy ddeall trafferthion a gwella adeiladau gwag, glanhau’r dref ac adfywio siopai gwag.Darllenwch y rhestr lawn ar ein tudalen Prosiectau..

Ydych chi’n darparu grantiau?

Er bod Prosiect Aber wedi ariannu gan grant, nid ydym yn ffynhonnell grantiau. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am grantiau ar wefan Cynnal Y Cardi yn ogystal â thudalen grantiau Cyngor Sir Ceredigion..

Sut alla i gymryd rhan?

Rydym yn croesawu ymroddiad oddi wrth y gymuned. Mae sawl ffordd i unigolion a grwpiau gyfrannu. Croeso i chi gysylltu am fwy o fanylion. .

Sut fedrai dderbyn y newyddion diweddaraf?

Derbyniwch y newyddion diweddaraf am Prosiect Aber, digwyddiadau a llwyddiannau trwy ymweld â’r wefan yn aml. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw wrth gadw’r gymuned mewn cysylltiad â’r prosiect.

Ydy Prosiect Aber yn agored i adborth ac awgrymiadau?

Wrth gwrs! Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth a syniadau ac yn annog y gymuned i rhannu syniadau gyda ni.

Pa mor amal bydd Prosiect Aber yn rhannu newyddion?

Mae Prosiect Aber yn bwriadu diweddaru’r gwefan unwaith y mis, bydd hyn yn sicrhau bod ein cymuned yn ymwybodol am y datblygiadau a’r llwyddiannau diweddaraf.